top of page

Tewach na Dŵr

Rhaglen radio sy'n rhan o Dymor Teulu BBC Cymru / Wales.

 

Mae Tewach na Dŵr yn clywed straeon dwys a doniol gan wahanol efeilliaid. Mae Eleri ac Alwena yn sôn am rannu cariad a chwarae triciau ar athrawon.

 

Mi glywn ni gan fab Eleri, Isac, sy'n efaill i Morgan, sydd â pharlys yr ymennydd (Cerebral Palsy).

 

Lawr yng Ngheredigion, mi glywn ni straeon Gaynor a Heather, sy'n gwisgo union yr un fath, yn ffrindiau penna ac yn byw gyda'i gilydd.

 

Ac mi gawn ni hanes Catrin, sy'n byw yng Nghaerdydd sy wedi mabwysiadu efeilliaid.

bottom of page