Preifatrwydd a chwcis
Polisi Preifatrwydd Goriad Cyfyngedig
24 Mai 2018
Cyffredinol
Mae Goriad Cyfyngedig yn ofalus iawn wrth ymdrin â gwybodaeth am unigolion. Fel arfer, mae’r wybodaeth yn cael ei chasglu wrth i Goriad ymchwilio neu gynhyrchu rhaglenni ar gyfer teledu, radio neu’r we. Mi fyddwn ni'n cael y wybodaeth wrth gyfathrebu gyda’r unigolion. Mi fyddan ni’n gofyn am ganiatâd yr unigolion cyn trosglwyddo gwybodaeth i gwmni arall - e.e. cwmni darlledu.
Mi all y wybodaeth sydd gan Goriad hefyd gynnwys negeseuon a manylion e-bost, cyfeiriadau, rhifau ffôn etc. Mi all hefyd gynnwys dogfennau swyddogol fel cytundebau a ffurflenni caniatâd wedi eu harwyddo gan unigolyn neu gan gynrychiolydd yr unigolyn
Fydd Goriad ddim yn rhoi unrhyw wybodaeth bersonol - e.e. cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost i bobol neu gwmnïau eraill heb gael caniatâd yr unigolyn.
• Mi allwch chi gysylltu â ni unrhyw bryd i ofyn inni gael gwared â gwybodaeth bersonol amdanoch chi.
• Mi allwch chi ofyn inni unrhyw bryd i ddiweddaru neu gywiro gwybodaeth bersonol amdanoch chi.
• Mi allwch chi ofyn unrhyw bryd am weld copi o’r wybodaeth bersonol sydd gynnon ni.
Mae'r wybodaeth yn cael ei chadw ar offer Goriad neu ar weinyddion wedi amgryptio (encrypted servers).
Gwefan Goriad
Mae gwefan Goriad wedi ei chreu er mwyn i bobol wybod mwy am y math o waith mae’r cwmni’n ei wneud. Dydi’r safle ddim wedi cael ei chreu er mwyn casglu gwybodaeth am unigolion - rydan ni’n parchu preifatrwydd y bobol sy’n edrych ar y wefan.
Gwefannau Allanol
Mae’n bosib y bydd gwefan Goriad yn cynnwys lincs ar gyfer gwefannau eraill neu safleoedd fel rhai ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Dydi Goriad ddim yn atebol a ddim yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am yr hyn sydd ar y safleoedd hynny.
Cwcis:
Mae gwefan Goriad yn defnyddio Cwcis (neu ‘Briwsion’). Mi allwch chi ddod o hyd i wybodaeth am gwcis ar wefannau allanol fel yr un yma: http://www.allaboutcookies.org/
Newid neu gael gwared â chwcis:
Dyma ychydig o lincs allanol allai eich helpu os byddwch chi eisiau newid neu gael gwared â chwcis.
Firefox: https://support.mozilla.org/en-US/kb/enable-and-disable-cookies-website-preferences
Google Chrome: https://support.google.com/accounts/answer/61416?co=GENIE.Platform%3DDesktop&hl=en
Android: https://support.google.com/accounts/answer/61416?co=GENIE.Platform%3DAndroid&hl=en
Safari: https://support.apple.com/en-gb/guide/safari/manage-cookies-and-website-data-sfri11471/mac
Iphone, iPad, iPod Touch - Safari: https://support.apple.com/en-gb/HT201265
Google Analytics
Fel llawer iawn o wefannau, mae Goriad yn defnyddio Google Analytics i fonitro perfformiad ein gwefan ni a gweld sut mae hi'n cael ei defnyddio. Dy’n ni ddim yn defnyddio ystadegau sy'n cael eu casglu gan Google i ddod o hyd i wybodaeth fyddai'n gallu adnabod unigolyn.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am Google Analytics a’u polisi preifatrwydd yn fan hyn:
https://policies.google.com/privacy/update?hl=en\
https://support.google.com/analytics/answer/6004245
I reoli / cael gwared â Google Analytics -
https://tools.google.com/dlpage/gaoptout
Mi all Goriad ddiweddaru’r Polisi Preifatrwydd unrhyw bryd. Mi fydd dyddiad diweddara’r Polisi Preifatrwydd yn cael ei nodi ar ben y dudalen.
Mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd os oes gynnoch chi gwestiwn neu sylw drwy glicio botwm Cysylltu ar wefan Goriad.