top of page

O Enau Plant Bychain

O Enau Plant Bychain - rhaglen awr o hyd lle mae plant rhwng 7 ac 11 oed yn siarad am y Nadolig a'r byd a'i bethau.  Fe gafodd y rhaglen ei darlledu ar Radio Cymru ddiwrnod Dolig. Yn ogystal â hyn, fe gafodd pum rhaglen fer eu darlledu dros gyfnod o wythnos.

 

Cafodd pob math o bethau eu trafod - y dwys a'r ysgafn.

 

Mi gafodd y rhaglen ei recordio yn ysgolion Gwenllian yng Nghydweli, Pant Pastynog ym Mhrion, Maenofferen ym Mlaenau Ffestiniog, Treganna yng Nghaerdydd a Bro Hyddgen ym Machynlleth.

bottom of page