top of page

Cymry'r Cant: Hugh Llanfairfechan

 

Cymry'r Cant: Hugh Llanfairfechan

 

Cyfres ar S4C am bobol sy dros 100 oed.

 

Mae'r gyfres 3 rhan yn dechrau gyda stori Hugh Lloyd Jones.

 

Mae'n ddyn anhygoel. Fe adawodd yr ysgol yn ifanc er mwyn bod yn brentis trydanwr. Hugh oedd y person wasgodd y botwm i roi trydan i Lanfairfechan am y tro cyntaf erioed.

 

Mae ganddo gymaint o straeon - ei ddyddiau yn yr Azores yn ystod yr Ail Ryfel Byd a'i gysylltiad â'r penderfyniad i newid dyddiad y D-Day Landings. Yn ôl Hugh, mi fyddai cannoedd yn fwy o bobol wedi marw os na fyddai'r dyddiad wedi cael ei newid.

 

Roedd Hugh yn entrepreneur o'i ddyddiau ysgol. Yn y 1970au mi ddaeth yn Faer Aberconwy.

 

Clicia ar y lluniau i wylio a gwrando ar Hugh. Mi gei di dy synnu wrth glywed ei straeon a gweld ei egni!

Hugh yn cael hwyl gyda phobol eraill sy'n byw yng Nghartref Llys y Coed, Llanfairfechan

Stori Hugh Lloyd Jones wrth iddo ddod adre o'r Ail Ryfel Byd - yn ysu i weld ei wraig a'i fab ifanc, Aled

bottom of page