top of page

Cymry'r Cant:

Stori Myfanwy, Vernon a Mary

Vernon Davies

100 oed

Cyfres am bobol sy dros 100 oed ar gyfer S4C.

 

Yn y rhaglen yma, Myfanwy Morris, 103 oed o Lerpwl. Roedd hi’n cofio’r sioc o weld cyflwr truenus ei thad ar ôl iddo ddod adre ar ôl bod yn Garcharor Rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Y Parch Ddr. Vernon Davies, 100 oed o’r Garnant. Roedd yn yr un flwyddyn ysgol â Dylan Thomas. Mae’n defnyddio ei gyfrifiadur bob dydd. 

 

Mary Keir o Dyddewi sy’n 102. Roedd Mary yn nyrs ac mae’n cofio’r noson yn glir pan oedd hi’n meddwl y byddai’n marw wrth i awyrennau geisio bomio Ysbyty Llandochau ger Caerdydd.

Myfanwy Morris -103 oed

Mary Keir

102 oed

bottom of page