top of page
Cymry'r Cant: Stori Emrys, Ruby, Lel a Dan
Mary Ellen Davies (Lel) - 105 oed
Mae Lel, o Gerrigydrudion ger Corwen yn cofio milwr yn cuddio yn y cae swêj ar fferm ei Nain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ruby Ellis - 101 oed
Mae Ruby o Benycae ger Wrecsam yn cofio trydan yn cyrraedd ei chartref am y tro cynta. Mae hi hefyd yn cofio mai ei theulu hi oedd y cyntaf yn yr ardal i gael bath go iawn wedi ei osod.
Emrys Williams - 100 oed
Mi gafodd cartref teulu Emrys ym Modffordd, Môn ei chwalu er mwyn gwneud lle i awyrennau lanio yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Meirion Davies (Dan) - 101 oed
Yn ôl Dan, sy'n dod o bentre Carrog yn Sir Ddinbych, y gyfrinach i fyw bywyd hir ydi trio dod o hyd i ddynes ifanc!
bottom of page