top of page

Mae Goriad yn cynhyrchu rhaglenni teledu a radio

Cymry'r Cant

 

Cyfres deledu am wyth o bobol dros 100 oed

 

Straeon dirdynnol ac ysgafn gan wyth o siaradwyr Cymraeg mewn gwahanol rannau o Gymru.

 

Clicia ar y llun i wybod mwy am wyth o bobol arbennig iawn

 

 

Lle yn y Llety

 

Ywain Gwynedd sy'n ymuno â rhai o staff a chwsmeriaid gwesty'r Black Boy yng Nghaernarfon.

 

Digon i'w drafod a lot o hwyl!

 

 

 

 

 

 

 

Geraint Jarman

 

Geraint Jarman yn siarad am ei fywyd personol a'i gerddoriaeth dros y blynyddoedd.

Rhaglen ddogfen gan y cerddor Griff Lynch a Chwmni Goriad

 

 

 

 

 

 

 

 

 

O'r Galon : Mared

 

Rhaglen deledu ar gyfer S4C

am Mared Jarman sy'n byw bywyd llawn, er bod ei golwg hi'n wael iawn. 

 

 

 

 

O'r Galon: Byd Enlli a Gwenno

 

Rhaglen deledu ar gyfer S4C.

Mi gafodd Enlli fabi pan oedd hi’n ifanc. Roedd Gwenno fach yn fyddar. Mae hi wedi cael cochlear implants i’w helpu hi i glywed.

 

 

 

Y diweddara am Jemma sydd ag arthritis. Mi roddodd Jemma y gorau i’w thabledi lladd-poen i drio cael babi.

Mae Goriad yn mynd yn ôl at Jemma i weld sut mae hi'n dygymod â bywyd gyda'i babi, Alys. 

 

 

 

 

 

 

Tewach na Dŵr

 

 

 

 

 

 

Un o dair rhaglen gan Goriad ar gyfer Radio Cymru, oedd yn rhan o Dymor Teulu BBC Cymru.

Rhaglen am efeilliaid ydi Tewach na Dŵr ac mi glywn ni setiau o efeilliaid yn siarad am y berthynas unigryw sy rhyngddyn nhw.

Clicia ar y llun i WELD rhannau o'r rhaglen radio.

Byw gydag Arthur

 

 

 

 

 

 

Gofal Pia Hi

Rhaglen radio lle mae Delwyn Williams yn egluro sut newidiodd bywyd ei deulu pan wnaethon nhw ddarganfod fod gan ei wraig, Olga, MS. Mi dreuliodd Delwyn tua 30 mlynedd yn mynd i weld Olga mewn ysbytai.

 

 

 

 

 

bottom of page