top of page

Mae Byw gydag Arthur yn dilyn dynes 36 oed o'r cymoedd oedd eisiau trio am fabi.

 

Ond doedd y penderfyniad ddim yn hawdd i Jemma West a'i gwr, And. Fe gafodd Jemma wybod fod ganddi hi arthritis pan oedd hi'n 15 oed ac mae hi wedi cael sawl triniaeth fawr ers hynny. Mae hi wedi bod ar feddyginiaeth i ladd y boen - ond i gael babi, roedd yn rhaid iddi hi roi'r gorau i'r holl dabledi.

 

Roedd y ddau'n gwybod yn iawn y byddai Jemma yn diodde'n ofnadwy - ond roedd cael babi yn bwysicach na dim byd arall.

 

Fe ddilynodd y rhaglen Jemma dros gyfnod o fisoedd.  Ac ar ôl yr holl boeni, roedd 'na newyddion da. Mi gafodd Jemma ac And fabi bach o'r enw Alys. 

 

Fe aeth Goriad yn ôl at Alys i weld sut oedd Jemma yn ymdopi gydag Alys fach.

bottom of page