Aled Glynne oedd Golygydd BBC Radio Cymru rhwng 1995 a 2006. Ail lansiodd yr orsaf yn llwyddiannus yn 1995. Fe wnaeth barhau i gyflwyno newidiadau i Radio Cymru dros y blynyddoedd, gan ddenu gwrandawyr newydd a chynulleidfa iau at yr orsaf.
Cyn hynny roedd Aled yn Olygydd Newyddion Radio Cymru ac yn Uwch Gynhyrchydd gwasanaeth Newyddion y BBC ar S4C. Aled hefyd arweiniodd y tîm sefydlodd wefan Gymraeg gyntaf y BBC, Cymru'r Byd.
Yn ogystal â chynhyrchu rhaglenni teledu a radio, mae Aled yn darlithio ym Mhrifysgol De Cymru yng Nghaerdydd. Mae hefyd yn feirniad radio a theledu gyda'r Wyl Cyfryngau Celtaidd, Bafta Cymru a'r Wales Media Awards.

Aled Glynne

Athrawes oedd Afryl cyn rheoli ei chwmni ymgynghorol, Gafal, rhwng 2004 a 2007.
Mae wedi gweithio fel Ymgynghorydd Annibynnol i nifer o sefydliadau Cenedlaethol yng Nghymru a thu hwnt. Roedd y gwaith yn cynnwys arwain prosiectau Prydeinig ar gyfer y BBC.
Mae gan Afryl brofiad o drefnu ac arwain cynadleddau, gweithdai a chyrsiau.
Afryl ac Aled sy'n cynhyrchu rhaglenni radio a theledu Goriad.
Fe gafodd Goriad Cyfyngedig ei sefydlu gan Aled Glynne ac Afryl Davies yn 2007. Mae'r cwmni'n cynhyrchu rhaglenni radio a theledu. Mae Goriad hefyd yn trefnu ac yn arwain gweithdai a chyrsiau.