Radio
Rhannau o raglenni Goriad ar gyfer BBC Radio Cymru
"You piece of sh*t - eistedda ar y llawr."
“Roedd yn rhaid imi eistedd ar y llawr yn y fur and the dirt.”
Roz Richards, ei hefaill Lara a’u mam yn siarad yn agored am hiliaeth.
"Mae’n braf bo chi ddim yn sylweddoli eich bod chi'n i'n gwneud hyn am y tro diwethaf." Sian Roberts yn dweud sut mae ei bywyd yn newid oherwydd MS.
Alaw Evans: “Ges i ddamwain car - o’n nhw’n meddwl mod i wedi marw.”
“Ges i Caesarian - achos mod i’n fwy metel nag asgwrn un ochor o nghorff.”
"Roedd y gwir Wyn Thomas yn cuddio y tu ôl i'r botel, y sigarets a'r wên."
Roedd Wyn bron yn 79 oed cyn iddo sylweddoli ei fod wedi cael pyliau o iselder ysbryd ers pan oedd yn blentyn.
“Roedd y galwadau ffôn yn mynd yn fyrrach achos bod Dad yn blino’n gynt.”
Roedd Bethan Maria Williams i fod i ofalu am ei thad, cyn gôli Cymru Dai Davies, yn ystod ei ddyddiau olaf. Ond mi gafodd hi Covid a gorfod ynysu yn ei chartref.
“Maen nhw’n sôn am eu plant nhw….a hwnna yw’r peth mwya chi moyn yn y byd - ond dydi e ddim yn digwydd.”
Stori ddirdynnol Amanda James.
"Oeddach chi'n gweld gwên ar yr hogyn 'ma - we've got you."
Stori Annette, nath orfod gadael y WRAF oherwydd ei bod hi'n hoyw.
"Mi ges i mwlio am flynyddoedd yn yr ysgol. Mi wnes i feddwl sa'r gwas yn bryfyn sa fy ngwarchod i." Stori bersonol Dewi Tudur wrth i'w lyfr , Dewey and the Dragonfly, gael ei werthu mewn sawl gwlad o gwmpas y byd.
"Dydyn nhw dim yn meddwl bod 'na broblem efo'r gadair - maen nhw'n meddwl nad ydw i jysd isio mynd allan."
Glyn Furnival-Jones yn sôn am yr heriau wrth deithio yn ei gadair olwyn drydan.
Mae Mair Elliott yn siarad yn hynod o onest am ddelio ag Anorexia.
Mi gafodd y rhaglen ei henwebu ar gyfer Gwobrau Mind Prydain
Mi nath Osian Leader brynu ci Border Doodle i'w deulu. Ond mi nath ei freuddwyd droi'n dipyn o hunllef.
Clicia ar y llun i weld plant yn trafod y byd a'i bethau.
Digon yma i wneud i ti feddwl - a digon i wneud i ti wenu.
Annette Edwards yn siarad yn agored am fwlio plentyn pan oedd y ddwy yn yr ysgol.
Clicia ar y llun i weld Annette yn siarad a gweld Robert John yn dweud sut beth ydi cael dy fwlio.
Mansel Jones yn siarad am ei gefnder, Ross, aeth ar goll yn 1965.
Rhaglenni gyda theuluoedd sy'n byw gyda Syndrom Down.
Clicia ar y llun i weld y gwahanol raglenni.
Pobol o wahanol rannau o Gymru yn siarad yn agored ac annwyl am fyw gydag awtistiaeth.
Clicia ar y llun i weld y fideos.
Clicia ar y llun i glywed gwahanol efeilliaid yn siarad am y berthynas unigryw sy rhyngddyn nhw.
Yr actores Lauren Phillips yn siarad am y Gymraeg gyda rhai o'i ffrindiau yn ardal Penybont-ar-Ogwr.
Plant rhwng 7 ac 11 oed yn trafod y byd a'i bethau!
Angylion, Arwyr, Cas fwyd, materion mawr y byd, anrhegion Nadolig gwaetha erioed a llawer llawer mwy.
Pobol rhwng 11 ac 86 oed yn dweud eu dweud am ganlyniad y Refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Ywain Gwynedd sy'n ymuno â rhai o staff a chwsmeriaid gwesty'r Black Boy yng Nghaernarfon.
Digon i'w drafod a lot o hwyl.
Plant yn dweud sut beth ydi bod yn 9 a 10 oed.
Y dwys a'r ysgafn. Clicia ar y llun i wylio fideos o'r cyfranwyr.
Mae gan Jemma West arthritis ers pan oedd hi'n blentyn. Mi roddodd hi'r gorau i’w thabledi lladd-poen i drio cael babi.
Rhaglen radio am daith Eurgain o Brifysgol Llambed i Zimbabwe.
Fe aeth Eurgain yno fel gwirfoddolwr i helpu i godi llyfrgell ar gyfer plant anabl.
Mae Aled Jones yn rhoi cartref i ffoaduriaid yn ei gartref yng Nghaerdydd
Mark Phillips, dyn ifanc o Sancler sydd a Pharlys yr Ymennydd.
Mae'n debyg y cei di sioc wrth wylio'r fideo yma.
Mae'n anodd credu y byddai pobol yn dweud y math yma o beth wrth berson mewn cadair olwyn.
Mae Delwyn Williams yn egluro sut newidiodd bywyd ei deulu pan wnaethon nhw ddarganfod fod gan ei wraig, Olga, MS.
Mi dreuliodd Delwyn tua 30 mlynedd yn mynd i weld Olga mewn ysbytai.
Ymateb teulu ar ôl i MS Radha Nair waethygu dros nos.
Mae Radha yn niwro-wyddonydd, yn dod o Singapore ac yn siarad Cymraeg yn rhugl.