|
Mae Goriad yn cael ei reoli gan Aled Glynne ac Afryl Davies.
Aled Glynne:
Darlledu ydi cefndir Aled. Yn ystod ei 28 mlynedd gyda’r BBC bu’n Olygydd Radio Cymru, yn Olygydd Newyddion Radio Cymru ac yn Uwch Gynhyrchydd Newyddion ar S4C. Aled oedd yn gyfrifol am lansio gwefan Gymraeg y BBC.
Afryl Davies:
Addysg ydi cefndir Afryl. Bu Afryl yn athrawes mewn ysgolion yn y de a’r gogledd cyn sefydlu ei chwmni ei hun. Fel Ymgynghorydd mae Afryl wedi gweithio i nifer o sefydliadau cenedlaethol. |