radio a theledu
 
Mae Goriad yn gwmni sy’n cynhyrchu rhaglenni radio.

Mae wedi cynhyrchu amryw o raglenni annibynnol ar gyfer BBC Radio Cymru.

Mae'r rhaglenni'n cynnwys

Cyfres am wirfoddolwyr mewn gwahanol rannau o Gymru

Rhifyn o 'Stiwdio' yn dilyn pobol ifanc sy wedi symud i Lundain i geisio llwyddo yn y byd actio a pherfformio

Rhaglen arbennig am y peintiwr amryddawn Gareth Parry - y stori ryfeddol am y dyn y tu ôl i'r llun

'Cant a Phlant' lle bu plant yn sgwrsio gyda phobol dros 100 oed


Yn ogystal â chynhyrchu rhaglenni radio, mae Goriad yn cydweithio â chwmnïau cynhyrchu er mwyn datblygu syniadau ar gyfer y teledu.

Mae Goriad wedi cydweithio â chwmniau cynhyrchu er mwyn addasu sgriptiau a'u sgwennu mewn Cymraeg clir

Fe wnaeth Goriad hefyd gydweithio â Cynyrchiadau Aden ar rifyn o 'O'r Galon' ar gyfer S4C.

 
cwmni cyfyngedig: 06222543 - dyluniwyd goriad.com gan rarebit.co.uk